Skip navigation

Therapyddion galwedigaethol

Daeth y safonau hyn yn weithredol ar 1 Medi 2023 gan ddisodli fersiynau blaenorol.

Mae’r safonau hyn yn amlinellu ymarfer diogel ac effeithiol yn y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio. Dyma’r safonau trothwy yr ydym yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Nodyn am yr hyn a ddisgwyliwn gennych

Rhaid i chi fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eich hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Os oes amheuaeth yn cael ei fwrw ar eich ymarfer, byddwn yn ystyried y safonau hyn (a’r safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg) wrth benderfynu pa gamau gweithredu, os o gwbl, y bydd angen i ni eu cymryd.

Mae’r safonau hyfedredd yn ategu gwybodaeth a chanllawiau a gyhoeddir gan sefydliadau eraill, megis eich corff proffesiynol neu eich cyflogwr. Rydym yn cydnabod rôl werthfawr cyrff proffesiynol o ran darparu canllawiau a chyngor ynglŷn ag ymarfer da sy'n gallu eich helpu chi i fodloni’r safonau a geir yn y ddogfen hon.

Rydym hefyd yn disgwyl i’r rhai sy’n cofrestru fodloni safonau’r HCPC o ran ymddygiad, perfformiad a moeseg a safonau o ran datblygiad proffesiynol parhaus.

Cwmpas eich ymarfer

Cwmpas eich ymarfer yw’r maes neu’r meysydd yn eich proffesiwn y mae’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad gennych ynddynt i ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol, mewn ffordd sy’n bodloni’r safonau ac nad yw’n creu unrhyw berygl i’r cyhoedd nac i chi’ch hunan.

Rydym yn sylweddoli y bydd cwmpas ymarfer rhywun sydd wedi cofrestru yn newid dros dreigl amser ac y bydd ymarfer unigolion profiadol sydd wedi cofrestru yn aml yn datblygu mwy o ffocws ac yn dod yn fwy arbenigol nag ymarfer cydweithwyr sydd newydd gofrestru.

Gallai hynny fod oherwydd arbenigedd mewn maes penodol neu gyda grŵp arbennig o gleientiaid, neu symud i rolau rheoli, addysgu neu ymchwil. Bob tro y byddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, gofynnir i chi lofnodi datganiad i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni’r safonau hyfedredd sy’n berthnasol i gwmpas eich ymarfer.

Gallai cwmpas penodol eich ymarfer olygu nad ydych yn gallu parhau i ddangos eich bod yn bodloni’r holl safonau perthnasol ar gyfer eich proffesiwn cyfan.

Cyn belled â’ch bod yn sicrhau eich bod yn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol o fewn cwmpas penodol eich ymarfer ac nad ydych yn ymarfer yn y meysydd ble nad yw’r hyfedredd gennych i wneud hynny, ni fydd hyn yn broblem. Os byddwch chi'n dymuno camu allan o gwmpas eich ymarfer, dylech chi fod yn sicr bod y gallu gennych i weithio’n gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Golyga hyn fod angen i chi arfer barn bersonol drwy ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol neu ennill profiad, cyn symud i faes newydd yn eich ymarfer.

Bodloni’r safonau

Mae hi’n bwysig eich bod yn bodloni’r safonau hyn ac yn gallu ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi unrhyw orchmynion ynglŷn â sut y dylech fodloni’r safonau. Fel arfer, mae mwy nag un ffordd o fodloni pob un o’r safonau a gallai eich dull chi o fodloni’r safonau newid dros dreigl amser oherwydd gwelliannau o ran technoleg neu newidiadau yn eich ymarfer.

Byddwn yn aml yn cael cwestiynau gan rai sydd wedi cofrestru sy’n bryderus y gallai rhywbeth y gofynnwyd iddynt ei wneud, polisi, neu’r ffordd y maent yn gweithio olygu nad ydynt yn gallu bodloni’r safonau. Byddant yn aml yn poeni y galli hynny effeithio ar eu cofrestriad.

Fel gweithiwr proffesiynol ymreolus, mae angen i ci wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a rhesymeg ynglŷn â’ch ymarfer er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau sy’n berthnasol i chi.

Mae hynny’n cynnwys ceisio cyngor a chefnogaeth gan ddarparwyr addysg, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, undebau ac eraill er mwyn sicrhau y caiff llesiant defnyddwyr y gwasanaeth ei ddiogelu bob amser. Cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny ac yn gallu cyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud, mae’n annhebygol iawn na fyddwch chi’n bodloni’r safonau.

Iaith

Rydym yn sylweddoli bod y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio mewn ystod o leoliadau gwahanol, sy’n cynnwys ymarfer uniongyrchol, rheoli, addysg, ymchwil a rolau mewn diwydiant. Rydym hefyd yn sylweddoli y gall y defnydd o derminoleg fod yn fater sy’n cyhyrfu emosiynau.

Mae’r rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda phobl wahanol iawn ac yn defnyddio termau gwahanol i ddisgrifio’r grwpiau sy’n defnyddio’u gwasanaethau neu’n cael eu heffeithio ganddynt. Mae rhai o’r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda chleifion, eraill gyda chleientiaid ac eraill gyda defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y termau y byddwch chi’n eu defnyddio yn dibynnu ar sut a ble byddwch chi’n gweithio. Rydym wedi defnyddio termau yn y safonau hyn sydd, yn ein tyb ni, yn adlewyrchu orau y grwpiau rydych chi’n gweithio gyda hwy..

Yn y safonau hyfedredd, rydym yn defnyddio ymadroddion megis ‘deall’ a ‘gwybod’. Mae hynny er mwyn i’r safonau barhau’n berthnasol i rai sydd wedi cofrestru ar y pryd o safbwynt cynnal eu haddasrwydd i ymarfer, yn ogystal â darpar aelodau o’r gofrestr nad ydynt wedi dechrau ymarfer eto ac sy’n gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf.


Safonau hyfedredd

Mae’r safonau hyn yn weithredol o 1 Medi 2023.

Mae’r safonau’n cynnwys elfennau generig, sy’n berthnasol i bawb sy’n cofrestru gyda ni, ac elfennau proffesiwn-benodol, sy’n berthnasol i’r rhai sydd wedi cofrestru sy’n perthyn i un o’r proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio.

Nid yw’r safonau’n hierarchaidd ac maent oll yr un mor bwysig o safbwynt ymarfer.

  • Mae’r safonau generig, sy’n berthnasol i bob proffesiwn, wedi’u hysgrifennu mewn print du, bras.
  • Mae’r safonau proffesiwn-benodol wedi’u hysgrifennu mewn print du, plaen.

Ar adeg eu cofrestru, rhaid bod therapyddion galwedigaethol yn gallu:

Expand all


  • 1.1 gwybod lle mae terfynau eu hymarfer a phryd i geisio cyngor neu gyfeirio at weithiwr proffesiynol neu wasanaeth arall

    1.2 cydnabod yr angen i reoli eu llwyth gwaith a’u hadnoddau eu hunain yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys rheoli’r baich emosiynol sydd ynghlwm â gweithio mewn amgylchedd lle mae pwysau

    1.3 cadw eu sgiliau a'u gwybodaeth yn gyfredol a deall pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol eu gyrfa

     


  • 2.1 cynnal safonau uchel o ran ymddygiad personol a phroffesiynol

    2.2 hyrwyddo a diogelu buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth bob amser

    2.3 deall pwysigrwydd diogelu drwy edrych yn rhagweithiol am arwyddion o gam-drin, gan ddangos dealltwriaeth o brosesau diogelu perthnasol ac ymwneud â’r prosesau hynny ble bo angen

    2.4 deall beth mae Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal yn ei wneud yn ofynnol iddynt ei wneud, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg

    2.5 deall a chynnal hawliau, urddas, gwerthoedd ac ymreolaeth defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys eu rôl yn y broses asesu, diagnosio, trin a/neu therapi

    2.6 cydnabod y dylai perthnasoedd â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr ac eraill fod yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth gan y naill ochr a’r llall tuag at ei gilydd, gan gynnal safonau uchel o ofal ym mhob amgylchiad

    2.7 deall pwysigrwydd, a gallu sicrhau cydsyniad dilys, sy’n wirfoddol ac ar sail gwybodaeth, yn rhoi ystyriaeth briodol i alluedd, yn gymesur i’r amgylchiadau ac wedi’i gofnodi’n briodol

    2.8 deall pwysigrwydd galluedd yng nghyd-destun darparu gofal a thriniaeth

    2.9 deall cwmpas dyletswydd gofal proffesiynol, ac arfer y ddyletswydd honno

    2.10 deall deddfwriaeth, polisïau a chanllawiau sy’n berthnasol i’w proffesiwn a chwmpas eu hymarfer a’u rhoi ar waith

    2.11 cydnabod yr anghydbwysedd grym sy’n deillio o fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a sicrhau nad ydynt yn camddefnyddio hynny er mantais bersonol

    2.12 deall effaith deddfwriaeth ar ddarparu gofal

     


  • 3.1 adnabod gorbryder a straen ynddynt hwy eu hunain a chydnabod yr effaith bosib ar eu hymarfer

    3.2 deall pwysigrwydd eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol eu hunain a strategaethau lles o safbwynt cynnal cymhwyster i ymarfer

    3.3 deall sut i gymryd camau gweithredu priodol pe gallai eu hiechyd effeithio ar eu gallu i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys ceisio cymorth a chefnogaeth pan fo angen

    3.4 datblygu a mabwysiadu strategaethau eglur ar gyfer hunan-ofal corfforol a meddyliol a hunan-ymwybyddiaeth, er mwyn cynnal safon uchel o ran effeithiolrwydd proffesiynol ac amgylchedd gweithio diogel

     


  • 4.1 cydnabod eu bod yn gyfrifol yn bersonol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd, ac yn gallu eu cyfiawnhau

    4.2 defnyddio eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt, i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a/neu gymryd camau gweithredu ble bo angen

    4.3 gwneud penderfyniadau rhesymegol i gychwyn, parhau, addasu neu roi’r gorau i driniaeth, neu ynglŷn â defnyddio technegau neu ddulliau gweithredu, a chofnodi’r penderfyniadau a’r rhesymeg yn briodol

    4.4 gwneud a derbyn atgyfeiriadau priodol, lle bo angen

    4.5 defnyddio’r gallu i wneud eu penderfyniadau e hunain

    4.6 dangos ymagwedd resymegol a systematig tuag at ddatrys problemau

    4.7 defnyddio sgiliau ymchwil, rhesymu a datrys problemau wrth benderfynu ar gamau gweithredu priodol

    4.8 deall yr angen i gymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant, goruchwylio a mentora o safbwynt cynnal safonau ymarfer uchel, ac ymddygiad personol a phroffesiynol, a phwysigrwydd dangos hynny wrth ymarfer

     


  • 5.1 ymateb yn briodol i anghenion pob grŵp ac unigolyn wrth ymarfer, gan sylweddoli y gall hynny gael ei effeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,* profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    5.2 deall deddfwriaeth cydraddoldeb a’i chymhwyso i’w hymarfer

    5.3 cydnabod effaith bosib eu gwerthoedd, eu credoau a’u rhagfarnau personol (a allai fod yn ddiarwybod) ar ymarfer a chymryd camau gweithredu personol er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r holl ofalwyr yn cael eu trin yn briodol â pharch ac urddas

    5.4 deall y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o ran ymarfer a gallu gwneud a chefnogi addasiadau rhesymol yn eu hymarfer eu hunain ac ymarfer pobl eraill

    5.5 cydnabod nodweddion a goblygiadau rhwystrau sy'n atal cynhwysiant, gan gynnwys y rhai ar gyfer grwpiau sydd wedi’u hynysu’’n gymdeithasol

    5.6 mynd ati’n weithredol i herio’r rhwystrau hyn, gan gefnogi cyflwyno newid lle bynnag y bo modd

    5.7 cydnabod bod angen i ystyriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael ei ymgorffori yn y modd y cymhwysir holl safonau’r HCPC, ar draws pob maes ymarfer

    *Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 6.1 cadw at ddyletswydd broffesiynol cyfrinachedd a deall pryd y gall fod angen datgelu

    6.2 deall egwyddorion llywodraethu gwybodaeth a data a bod yn ymwybodol o ddefnydd diogel ac effeithiol o wybodaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwybodaeth berthnasol arall

    6.3 adnabod ac ymateb yn amserol i sefyllfaoedd lle mae angen rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a/neu’r cyhoedd yn ehangach

    6.4 deall yr angen i sicrhau y cynhelir cyfrinachedd ym mhob sefyllfa ble mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dibynnu ar gymorth ychwanegol i gyfathrebu (megis dehonglwyr neu gyfieithwyr)

    6.5 deall bod cysyniadau cyfrinachedd a chydsyniad ar sail gwybodaeth yn ymestyn i bob cyfrwng, gan gynnwys cofnodion clinigol darluniadol megis ffotograffau, recordiadau fideo a sain a llwyfannau digidol

     


  • 7.1 defnyddio sgiliau llafar a dieiriau effeithiol a phriodol i gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    7.2 cyfathrebu yn Saesneg i’r safon ofynnol ar gyfer eu proffesiwn (yn cyfateb i lefel 7 System Ryngwladol Profi’r Saesneg (IELTS), heb unrhyw elfen islaw 6.5*)

    7.3 deall nodweddion a goblygiadau cyfathrebu llafar a dieiriau a sylweddoli sut mae’r rhain yn gallu cael eu heffeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,** profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    7.4 gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth a/neu eu gofalwyr i hwyluso’r rôl a ffeafrir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau, a rhoi’r wybodaeth y gall fod ei hangen arnynt i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr ble bo hynny’n briodol

    7.5 addasu eu dull o gyfathrebu er mwyn ateb anghenion a dewisiadau cyfathrebu unigol defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, a dileu unrhyw rwystrau rhag cyfathrebu lle bo modd

    7.6 deall yr angen i gefnogi anghenion cyfathrebu defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, megis trwy ddefnhyddio cyfieithydd neu ddehonglydd priodol

    7.7 defnyddio technolegau gwybodaeth, cyfathrebu a digidol sy’n briodol ar gyfer eu hymarfer

    7.8 deall yr angen i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ddefnyddwyr y gwasanaeth neu i bobl sy’n gweithredu ar eu rhan, mewn fformatau hygyrch, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

    7.9 gwrando’n rhagweithiol ar naratif galwedigaethol defnyddiwr y gwasanaeth a dadansoddi’r cynnwys er mwyn cynllunio at y dyfodol

    7.10 deall gwerthoedd, credoau, diwylliant, ymddygiadau a buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, trwy gyfweliadau a thrafodaethau personol

    * Mae’r System Ryngwladol Profi Saesneg (IELTS) yn profi hyfedredd yn y Saesneg. Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydy’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ac nad ydynt yn ymgeisio trwy Lwybr Cyd-gydnabod y Swistir (SMR) ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eu bod wedi cyflawni'r safon angenrheidiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Datganiad ar anghenion hyfedredd yn y Saesneg ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol.

    ** Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 8.1 gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    8.2 cydnabod egwyddorion ac arferion gweithwyr proffesiynol a systemau iechyd a gofal eraill a’r ffordd maent yn rhyngweithio â’u proffesiwn hwythau

    8.3 deall yr angen i ddatblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol fel ymarferydd ymreolus ac hefyd yn gydweithredol fel aelod o dîm

    8.4 cyfrannu’n effeithiol at waith a gaiff ei gyflawni fel rhan o dîm amlddisgyblaethol

    8.5 adnabod gorbryder a straen yn nefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr, gan addasu eu hymarfer a darparu cefnogaeth lle bo’n briodol

    8.6 deall rhinweddau, ymddygiadau a manteision arwain

    8.7 cydnabod bod arwain yn sgil y gall pob gweithiwr proffesiynol ei ddangos

    8.8 adnabod eu rhinweddau, ymddygiadau a dulliau gweithio arweiniol eu hunain, gan ystyried pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

    8.9 dangos ymddygiadau arweiniol sy’n briodol yn eu hymarfer

    8.10 bod yn ddelfryd ymddwyn i eraill

    8.11 hyrwyddo ac ymwneud â dysgu pobl eraill

    8.12 deall yr angen i ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio a gwerthuso asesiadau, triniaethau ac ymyriadau er mwyn diwallu eu hanghenion a chyflawni eu nodau

    8.13 sicrhau bod adolygiadau o ymyriadau yn cael eu llywio gan newidiadau yn amgylchiadau defnyddwyr y gwasanaeth

    8.14 deall yr angen i weithio gyda’r sawl sy’n darparu gwasanaethau mewn gwahanol sectorau ac ar eu traws, er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth gystal ag y bo modd. Deall cyfraniad darparwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a darparu iechyd, gofal a gwasanaethau eraill sy’n effeithio ar berfformiad galwedigaethol

    8.15 deall yr angen i fabwysiadu ffordd o weithio sy’n blaenoriaethu defnyddiwr y gwasanaeth, a sefydlu perthnasoedd proffesiynol priodol er mwyn ysgogi a chynnwys defnyddiwr y gwasanaeth mewn gweithgarwch ystyrlon

    8.16 deall gwerth galluogi a grymuso defnyddwyr y gwasanaeth, â’r nod o wella eu mynediad at yr holl wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael iddynt

    8.17 deall deinameg grwpiau a’r rolau ynddynt, a hwyluso gwaith grŵp er mwyn sicrhau'r gefnogaeth, y dysgu a'r newid mwyaf posib o fewn grwpiau a chymunedau

    8.18 deall yr angen i fanteisio, lle bo hynny’n briodol, ar y ddeinameg o fewn grwpiau a chymunedau er mwyn harneisio cymhelliant a chyfranogiad gweithredol y cyfranogwyr

    8.19 gweithio trwy bartneriaeth briodol â defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd ymyriadau therapi galwedigaethol

     


  • 9.1 cadw cofnodion llawn, eglur a chywir yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.2 rheoli cofnodion a phob gwybodaeth arall yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.3 defnyddio offer cadw cofnodion digidol, lle bo angen

     


  • 10.1 deall gwerth ymarfer myfyriol a’r angen i gofnodi canlyniad myfyrio o’r fath er mwyn cefnogi gwella parhaus

    10.2 cydnabod gwerth adolygiadau amlddisgyblaethol, cynadleddau achosion a dulliau eraill o adolygu

    10.3 cydnabod a gwerthuso potensial therapi galwedigaethol mewn meysydd ymarfer newydd

     


  • 11.1 ymwneud ag ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    11.2 casglu a defnyddio adborth a gwybodaeth, gan gynnwys data ansoddol a meintiol, er mwyn gwerthuso ymateb defnyddwyr y gwasanaeth i’w gofal

    11.3 monitro a gwerthuso ansawdd yr ymarfer yn systematig, a chynnal proses rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd effeithiol tra’n gweithio tuag at wella’n barhaus

    11.4 ymwneud â rheolaeth ansawdd, gan gynnwys rheoli ansawdd, sicrhau ansawdd, llywodraethu clinigol a’r defnydd o ddulliau priodol i fesur canlyniadau

    11.5 gwerthuso cynlluniau gofal neu gynlluniau ymyrryd gan ddefnyddio dulliau priodol i fesur canlyniadau, ar y cyd a defnyddiwr y gwasanaeth lle bo modd, ac adolygu’r cynlluniau yn ôl yr angen

    11.6 cydnabod gwerth casglu a defnyddio data ar gyfer rhaglenni sicrhau a gwella ansawdd

     


  • 12.1 gwerthfawrogi, a dwyn gwybodaeth yn rhagweithiol o, brofiadau byw o iechyd a salwch, yn ogystal ag effeithiau anablu ac allgáu cymdeithasol, ac ystyried hynny ochr yn ochr â gwybodaeth ddiagnostig sy’n berthnasol i’w proffesiwn

    12.2 dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion a ffyrdd o gymhwyso ymholi gwyddonol, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd triniaethau a’r broses ymchwil

    12.3 cydnabod rôl/rolau gweithwyr proffesiynol eraill mewn iechyd a gofal a deall sut y gallant fod yn gysylltiedig â rôl therapyddion celfyddydau o fewn y timau integredig sy’n gwasanaethu cymunedau

    12.4 deall strwythur a swyddogaeth systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig

    12.5 deall natur alwedigaethol bodau dynol a sut maent yn gweithredu mewn gweithgareddau beunyddiol megis hunanofal, cynhyrchiant a hamdden a’u hanghenion newidiol yn ystod cylch bywyd

    12.6 deall y rhyngberthynas rhwng yr unigolyn, eu hamgylchedd a’r alwedigaeth o’u dewis, rhwystrau a galluogwyr yn y system hon a sut i newid pob elfen fel rhan o adsefydlu

    12.7 cymhwyso’r cysyniadau damcaniaethol sy’n sail i therapi galwedigaethol, gan gynnwys cysyniadau:
    - anatomi;
    - ffisioleg;
    - patholeg;
    - datblygiad dynol;
    - ergonomeg;
    - biomecaneg;
    - seicoleg;
    - cymdeithaseg; a
    - gwyddor alwedigaethol

    12.8 gallu cymhwyso’r cysyniadau damcaniaethol sy’n sail i therapi galwedigaethol er mwyn llywio dealltwriaeth o iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol

    12.9 deall effaith ymddieithrio, camweithredu, amddifadedd ac anghyfiawnder galwedigaethol, gan sylweddoli pwysigrwydd adfer a hwyluso cyfleoedd i gyflawni llesiant galwedigaethol

    12.10 deall a dadansoddi gweithgaredd a galwedigaeth a’u perthynas ag iechyd, lles a gweithredu a’u heffaith arnynt fel rhan o broses fformiwleiddio galwedigaethol, diagnosis, a defnydd therapiwtig o alwedigaeth

    12.11 deall sail ddamcaniaethol, a’r amrywiaeth o ddulliau o ystyried asesu, cynllunio, ymyrryd a gwerthuso sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau galwedigaethol

    12.12 deall yr angen i ganfod ac asesu anghenion ac anawsterau galwedigaethol, corfforol, seicolegol, gwybyddol, diwylliannol ac amgylcheddol amrywiol defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr

    12.13 dangos ymwybyddiaeth o bolisïau a gwasanaethau corfforol, agweddol, cymdeithasol, economaidd, addysgol, amgylcheddol a rhai cysylltiedig a gwaith a’u heffaith ar bobl mewn cymdeithas amrywiol

    12.14 cydnabod gwerth yr amrywiaeth o ran ymddygiad dynol a'i gymhlethdod drwy ystyried gwahanol safbwyntiau corfforol, seicolegol, gwybyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, emosiynol ac ysbrydol

    12.15 dangos ymwybyddiaeth o wreiddiau a datblygiad therapi galwedigaethol, gan gynnwys esblygiad y proffesiwn tuag at y pwyslais presennol ar ymreolaeth a grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau

    12.16 deall y defnydd o’r modelau athronyddol presennol ar gyfer therapi galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gallu unigolyn i gyfranogi mewn galwedigaethau, gan hystyried ffactorau corfforol, biolegol, seicolegol a chymdeithasol ynghyd â’r cyd-destun amgylcheddol

    12.17 deall cysyniad hwyluso dysgu ac addysgu a chefnogi pobl eraill yn hynny o beth, gan gynnwys addysgu strategaethau hunan-reoli i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr

     


  • 13.1 newid eu hymarfer yn ôl yr angen er mwyn ystyried datblygiadau a thechnolegau newydd a chyd-destunau sy’n newid

    13.2 casglu gwybodaeth briodol

    13.3 dadansoddi’r wybodaeth a gesglir a'i gwerthuso'n feirniadol

    13.4 dethol a defnyddio technegau a chyfarpar asesu priodol

    13.5 cynnal a chofnodi asesiadau trylwyr, sensitif a manwl

    13.6 cynnal neu drefnu ymchwiliadau yn unol â’r hyn sy’n briodol

    13.7 cyflawni gweithdrefnau asesu neu fonitro, triniaeth, therapi neu weithredoedd eraill priodol yn ddiogel ac yn effeithiol

    13.8 adnabod ystod o fethodolegau ymchwil sy’n berthnasol i’w rôl

    13.9 cydnabod gwerth ymchwil o safbwynt gwerthuso ymarfer yn feirniadol

    13.10 gwerthuso ymchwil a thystiolaeth arall yn feirniadol er mwyn llywio eu hymarfer eu hunain

    13.11 cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth mewn ymchwil fel y bo’n briodol

    13.12 deall yr angen i ystyried asesu anghenion iechyd, gofal cymdeithasol, cyflogaeth a dysgu defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys yr angen i asesu risg a mentro'n gadarnhaol

    13.13 dethol a defnyddio technegau asesu perthnasol sydd wedi’u safoni a rhai sydd heb eu safoni, ynghyd ag arsylwi, er mwyn casglu gwybodaeth am alluoedd swyddogaethol a galwedigaethol, perfformiad a chyfranogiad defnyddiwr y gwasanaeth, gan ystyried y cyd-destun diwylliannol ac amgylcheddol

    13.14 llunio cynlluniau gofal neu reoli achosion penodol a phriodol gan gynnwys gosod amserlenni

    13.15 deall yr angen i gytuno ar nodau a blaenoriaethau’r ymyriad mewn perthynas ag anghenion galwedigaethol trwy bartneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth, gan sicrhau bod penderfyniadau o’r fath yn seiliedig ar ganlyniadau asesiadau

    13.16 dethol, fel y bo’n briodol, y galwedigaethau a’r gweithgareddau penodol i’w defnyddio fel cyfryngau therapiwtig, gan ystyried anghenion penodol defnyddwyr y gwasanaeth

    13.17 deall a defnyddio’r damcaniaethau gwyddonol, y cysyniadau, yr egwyddorion a’r fframweithiau proffesiynol sy’n sail i ymarfer therapi galwedigaethol

    13.18 dangos ymwybyddiaeth o’r ystod eang o alwedigaethau a gweithgareddau y gellir eu defnyddio wrth ymyrryd, a sut ddylai’r rhain adlewyrchu anghenion a dewisiadau galwedigaethol yr unigolyn

    13.19 dethol neu ddatblygu cyfryngau ac amgylcheddau therapiwtig, ac addasu’r rhain fel y bo’n briodol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth, adeiladu ar eu galluoedd a gwella eu perfformiad a’u cyfranogiad galwedigaethol

    13.20 deall yr angen i ddiwallu anghenion galwedigaethol emosiynol, cymdeithasol, seicolegol a gwybyddol defnyddwyr y gwasanaeth a’u hanghenion sy’n seiliedig ar iechyd corfforol, ar draws ystod o feysydd ymarfer a deall sut gall hynny amrywio ar draws ystod o feysydd ymarfer

     


  • 14.1 deall yr angen i gynnal eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill, gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr

    14.2 dangos ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a chydymffurfio â’r holl weithdrefnau gweithredu a pholisïau lleol

    14.3 gweithio’n ddiogel, gan gynnwys gallu dethol technegau priodol ar gyfer rheoli peryglon a rheoli, lleihau neu ddileu risgiau, mewn modd diogel ac yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

    14.4 dethol cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol a’i ddefnyddio’n gywir

    14.5 sefydlu amgylcheddau diogel ar gyfer ymarfer, sy’n rheoli risgiau mewn modd priodol

    14.6 deall technegau symud a chodi priodol a’u rhoi ar waith

     


  • 15.1 deall rôl eu proffesiwn o ran hybu iechyd, addysg iechyd ac atal afiechyd

    15.2 deall sut y gall ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (penderfynyddion iechyd ehangach) ddylanwadu ar iechyd a lles unigolyn

    15.3 grymuso a galluogi unigolion (gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth a chydweithwyr) i chwarae rhan wrth reoli eu hiechyd eu hunain

    15.4 ymwneud ag iechyd galwedigaethol, gan gynnwys bod yn ymwybodol o anghenion brechu

     

Cyhoeddwyd:
01/09/2023
Resources
Standards and guidance
Is-gategori:
Professional standards
Audience
Cofrestredig
Profession
Occupational therapists
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 29/11/2023
Top