Skip navigation

Safonau’r Gymraeg

Sut rydym yn darparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg.

Mae’r HCPC wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn eu dewis iaith.

Rydym yn mabwysiadu “egwyddor o gydraddoldeb” wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, sy’n golygu y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. 

Ers 2011, rydym yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg sy’n gosod rhwymedigaethau arnom i drin y ddwy iaith yn gyfartal a chynnig ystod o wasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg i’n rhanddeiliaid.

Yn 2022 cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg Safonau’r Gymraeg newydd ar gyfer rheoleiddwyr y proffesiynau  iechyd drwy Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r safonau hyn yn disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith Comisiynydd y Gymraeg a’r safonau yma.

Mae’r safonau yn gyfres gyfreithiol rwymol o ofynion a luniwyd i hybu a hwyluso’r Gymraeg, a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.  

Rhannwyd y safonau yn bum categori: 

Eisiau gwybod rhagor? Gallwch ddarllen yr holl safonau sy'n berthnasol i ni yma.

I gael gwybodaeth ynghylch sut i gyrchu gwasanaethau yn y Gymraeg, cysylltwch â'r adran berthnasol.

Monitro'r Gymraeg yn Flynyddol

Rydym yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad diweddaraf isod.

Y Gymraeg ar ein gwefan

Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella ein galluoedd Cymraeg ar-lein. Rydym felly yn cynnig gwefan Gymraeg, sy'n cynnig cynnwys wedi'i gyfieithu lle mae ar gael yn arddull a fformat y wefan Saesneg.

Cyhoeddwyd:
06/12/2023
Resources
Report, Policy
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 14/12/2023
Top