Skip navigation

Codi pryderon

Os nad yw unigolyn cofrestredig yn bodloni ein safonau, gallwn gymryd camau a allai gynnwys eu hatal rhag ymarfer.

Mae hyn yn golygu os ydych yn anfodlon ar y driniaeth neu'r gofal a gewch, neu'n poeni am ymddygiad neu iechyd gweithiwr cofrestredig, gallwch chi bob amser godi eich pryderon gyda ni.

Pa fath o achosion yr ydym yn eu hystyried

Ein prif bryder yw p'un a oes tystiolaeth sy'n dangos nad yw aelod cofrestredig yn gallu ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Byddwn yn ystyried pob achos yn unigol. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn penderfynu nad yw aelod cofrestredig yn gallu ymarfer yn ddiogel os bydd y dystiolaeth yn dangos ei fod yn: - anonest, wedi twyllo neu wedi camddefnyddio ymddiriedaeth rhywun;

  • manteisio ar berson sy'n agored i niwed;
  • methu â pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i wneud dewisiadau am eu gofal eu hunain;
  • â phroblemau iechyd nad ydynt wedi delio â hwy, ac a allai effeithio ar ddiogelwch y defnyddwyr gwasanaeth;
  • wedi cuddio camgymeriadau neu wedi ceisio rhwystro ein hymchwiliad;
  • wedi bod mewn perthynas amhriodol gyda defnyddiwr gwasanaeth;
  • wedi gwneud gweithredoedd di-hid neu’n fwriadol niweidiol;
  • wedi methu â chyrraedd safonau’n ddifrifol neu’n gyson;
  • yn ymwneud â chamymddwyn rhywiol neu anwedduster (gan gynnwys unrhyw ymwneud â phornograffi plant);
  • yn dioddef o broblem cam-drin neu gamddefnyddio sylweddau;
  • wedi bod yn dreisgar neu wedi dangos ymddygiad bygythiol, neu
  • cyflawni gweithgareddau eraill, sydd yr un mor ddifrifol, ac sy'n effeithio ar hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.

Rydym yn ystyried pryderon lle mae’r digwyddiadau wedi digwydd efallai rai blynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae’r cyfnod o amser sydd wedi pasio ers y digwyddiadau a arweiniodd at bryder yn gallu effeithio ar ansawdd ac argaeledd gwybodaeth berthnasol, felly am y rheswm hwnnw efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen i ymchwilio i bryder yn ymwneud â digwyddiad sydd dros bum mlwydd oed.
Mae’n well, felly, rhoi gwybod inni am unrhyw bryderon mor agos at y digwyddiad â phosibl. Rydym yn ystyried pob achos ar ei haeddiant a byddwn yn asesu’r dulliau sy’n agored inni er mwyn cael gwybodaeth berthnasol am bryder.

Gallwn hefyd ystyried pryderon ynghylch a wnaed cofnod ar Gofrestr yr HCPC drwy dwyll neu’n anghywir.

Nid oes cyfyngiadau amser a gallwn ystyried achosion a ddigwyddodd nifer o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n well os ydym yn cael gwybod am unrhyw bryderon mor agos at y digwyddiad ag y bo modd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gallu cael y dystiolaeth orau bosibl a chysylltu â phobl sy'n gallu cofio digwyddiadau yn hawdd.

Os hoffech chi fynegi pryder am unigolyn cofrestredig, gallwch wneud hyn mewn un o'r ffyrdd canlynol.

Mewn ysgrifen

Anfonwch wybodaeth am eich pryderon i'r cyfeiriad canlynol. Yr Adran Addasrwydd i Ymarfer

Y Cyngor Proffesiynau Iechyd & Gofal
Park House
184 Kennington Park Road
Llundain
SE11 4BU

Bydd angen ichi gynnwys:

  • eich enw llawn a manylion cysylltu;
  • cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y gweithiwr proffesiynol ag y gallwch, fel ei enw, ei broffesiwn a’r man gwaith;
  • os yw’n bosibl, rhif cofrestru HCPC y gweithiwr proffesiynol, sydd ar gael ar y Gofrestr; a
  • rhowch gymaint o wybodaeth ag y bo modd am y digwyddiad, fel enwau, dyddiau a lleoliadau.

Dros y ffôn

Rydym yn deall efallai na fydd yn bosibl i chi roi eich pryderon yn ysgrifenedig, er enghraifft os oes gennych anabledd neu’n ei chael yn anodd ysgrifennu. Os mai dyma’r sefyllfa, gallwn gymryd datganiad dros y ffôn a’i anfon atoch chi i chi ei wirio a’i lofnodi. Am ragor o wybodaeth am ddarparu datganiad dros y ffôn, ffoniwch yr Adran Addasrwydd i Ymarfer a byddwn yn trefnu amser a dyddiad cyfleus i’ch ffonio.

  • Ffôn: 44 (0)20 7840 9814
  • Rhadffôn (Yn y Deyrnas Unedig): 0800 328 4218
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 17/09/2018
Top