 Am y pamffled hwn Mae’r pamffled hwn yn dweud wrthych beth i’w wneud os nad ydych chi’n hapus gyda’r gofal a gawsoch gan weithiwr proffesiynol iechyd. Ni (y Cyngor Proffesiynau Iechyd neu HPC) sy'n gyfrifol am amddiffyn iechyd a lles pobl sy'n defnyddio gwasanaethau staff proffesiynol iechyd cofrestredig.
Os nad ydych chi’n hapus gyda’r driniaeth a roddir i chi, neu os ydych chi’n pryderu am ymddygiad neu am iechyd gweithiwr proffesiynol cofrestredig, mae croeso i chi siarad â ni.
Beth yw’r HPC? Rydym yn cofrestru aelodau o 13 o wahanol broffesiynau iechyd ar hyn o bryd, ac efallai y byddwn yn cofrestru aelodau o broffesiynau eraill yn y dyfodol. Dim ond pobl sy’n cyrraedd rhai safonau proffesiynol o ran sgiliau, ymddygiad ac iechyd a gofrestrir gennym. Yn y pamffled hwn, rydym yn defnyddio’r term ‘cofrestreion’ ar gyfer staff proffesiynol sydd wedi’u cofrestru.
Ar hyn o bryd rydym yn rheoleiddio’r proffesiynau canlynol.
- Therapyddion celfyddydau
- Gwyddonwyr Biofeddygol
- Ciropodyddion / podiatyddion
- Gwyddonwyr clinigol
- Dietegwyr
- Therapyddion galwedigaethol
- Ymarferwyr adrannau llawfeddygol
- Orthoptwyr
- Parafeddygon
- Ffisiotherapyddion
- Prosthetegwyr / orthotegwyr
- Radiograffyddion
- Therapyddion lleferydd ac iaith
I ddysgu mwy am rôl proffesiwn iechyd penodol, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn www.hpc-uk.org/aboutregistration/professions/
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithwyr proffesiynol iechyd gan eu cyrff proffesiynol. Gallwch edrych ar ein gwefan am fanylion cyrff proffesiynol y proffesiynau iechyd rydym yn eu rheoleiddio.
Beth yw addasrwydd i ymarfer? Pan ddisgrifir gweithiwr proffesiynol iechyd fel ‘addas i ymarfer’, mae hyn yn golygu y gallwch fod yn hyderus bod y gweithiwr yn gallu gwneud ei waith yn ddiogel ac yn effeithiol, o ran cymeriad, iechyd a'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol.
Nodir yr ymddygiad a lefel y sgiliau a’r wybodaeth y gellwch eu disgwyl gan gofrestrai yn y ‘Safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg’ a’r ‘Safonau cymhwysedd’. Am ragor o wybodaeth am y safonau, ewch i’n gwefan ar www.hpc-uk.org
Cyfrifoldeb yr Adran Addasrwydd i Ymarfer sy’n gyfrifol am ymdrin â chwynion. Gelwir y rhain yn ‘gyhuddiadau’ ac maent yn cwestiynu a yw’r gweithwyr proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda ni’n addas i ymarfer.
Beth os nad ydych yn hapus gyda chofrestrai? Os ydych yn pryderu am ymddygiad neu iechyd cofrestrai, neu os nad ydych chi’n hapus gyda’r driniaeth a gawsoch, efallai yr hoffech gwyno wrthym amdano.
Pwy sy’n cael cwyno? Mae unrhyw un yn cael gwneud cwyn wrthym am weithiwr proffesiynol cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, cyflogwyr, yr heddlu a chofrestreion eraill.
Pa fath o gwynion y gallwn ni eu hystyried? Dim ond cwynion am addasrwydd i ymarfer a ystyrir gennym. Y mathau o gwynion yr ydym yn eu hystyried yw’r cwestiynau hynny ynglyn ag a yw addasrwydd cofrestrai i ymarfer wedi’i 'amharu' (effaith negyddol arno) gan:
- camymddygiad;
- diffyg cymhwysedd (heb fod â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol);
- rhybudd neu euogfarn am drosedd yn y Deyrnas Unedig (neu yn rhywle arall am drosedd fyddai'n drosedd pe bai'n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr);
- eu hiechyd corfforol neu feddyliol;
- penderfyniad gan reolydd arall sy’n gyfrifol am ofal iechyd.
Gallwn hefyd ystyried cyhuddiadau bod enw wedi'i gynnwys ar Gofrestr HPC drwy dwyll neu ar gam.
Rydym yn rheolydd DU gyfan. Golyga hyn y bydd unrhyw gamau a gymerir gennym yn effeithio ar gofrestriad person ledled y DU.
Bydd p'un ai a ddylech ddweud wrthym am fater yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar ba mor ddifrifol yw. Os nad ydych chi’n siwr am hyn, cysylltwch â’r Adran Addasrwydd i Ymarfer (gweler diwedd y llyfryn hwn am ein manylion cysylltu).
Yn y gorffennol, ymhlith yr achosion sydd wedi ein harwain i gymryd camau yn y gwrandawiad terfynol y mae:
Euogfarnau neu rybuddion oherwydd troseddau, gan gynnwys:
- dwyn;
- pornograffi plant;
- trais.
(O dan Gynllun Galwedigaethau Hysbysadwy’r Swyddfa Gartref rhoddir gwybod inni am gofrestrai a gafwyd yn euog o unrhyw drosedd yng Nghymru a Lloegr.)
Camymddygiad, gan gynnwys:
- gweithio o dan ddylanwad alcohol;
- cadarnhau canlyniadau sy’n anghywir;
- peidio â chynnal asesiadau clinigol yn ddigon da;
- peidio â chadw cofnodion cywir;
- peidio â thrin cleifion i safon ddigon uchel;
- peidio â chyfathrebu'n ddigon da â defnyddwyr gwasanaeth;
- defnyddio gwefannau amhriodol yn y gwaith;
- hawlio seibiant astudio neu salwch yn ffug;
- cael perthynas rywiol â chleifion.
Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn. Byddwn yn edrych ar bob achos ar wahân.
Sut i wneud cwyn Os ydych am wneud cwyn am gofrestrai gallwch wneud hynny drwy’r ffyrdd canlynol.
1 Mewn ysgrifen Anfonwch eich cwyn i'r cyfeiriad canlynol. Cyfarwyddwr Addasrwydd i Ymarfer? Cyngor Proffesiynau Iechyd Park House, 184 Kennington Park Road, Llundain, SE11 4BU
Bydd rhaid i chi gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad llawn;
- cymaint o wybodaeth am y cofrestrai ag y gallwch ei roi inni, fel yr enw, y proffesiwn a'r man gwaith;
- os yw’n bosibl, rhif cofrestru HPC y cofrestrai, gellir dod o hyd iddo ar y Gofrestr ar-lein;
- cymaint o wybodaeth am y digwyddiad ag y gallwch chi ei ddarparu, fel enwau, dyddiau a lleoliadau.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi lenwi ein ffurflen gwyno. Gallwch lwytho hyn i lawr o adran gwynion ein gwefan yn www.hpc-uk.org. Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r ffurflen hon, mae croeso i chi ffonio'r Adran Addasrwydd i Ymarfer ar y rhif isod ac anfonwn gopi atoch yn y post.
2 Dros y ffôn Rydym yn deall nad yw bob amser yn bosibl i gwynion fod yn ysgrifenedig. Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cwyn dros y ffôn, mae croeso i chi ffonio’r Adran Addasrwydd i Ymarfer. Bydd rhaid i chi ddweud wrthym pa iaith yr hoffech ei defnyddio, eich enw a’ch rhif ffôn fel y gallwn eich ffonio chi'n ôl.
Y rhif yw 020 7840 9814.
Beth sy’n digwydd nesaf? Os yw eich cwyn am un o'n cofrestreion, byddwn yn gwneud y canlynol.
- Bydd aelod o’r Adran Addasrwydd i Ymarfer yn delio â’ch cwyn. Fe rown fanylion yr aelod hwn i chi.
- Ysgrifennwn atoch i ddweud ein bod wedi derbyn eich cwyn.
- Byddwn hefyd yn cynnal ymchwiliadau i’ch cwyn.
- Ysgrifennwch at y cofrestrai i ddweud wrtho/wrthi fod cwyn yn ei (h)erbyn.
Trosglwyddir y wybodaeth hon i banel o’n Pwyllgor Ymchwilio. Byddant yn cwrdd yn breifat ac yn ystyried y dogfennau ar gael i weld a oes angen inni gymryd unrhyw gamau eraill.
Mae o leiaf dri pherson ar bob panel, gan gynnwys rhywun o’r proffesiwn dan sylw a pherson lleyg (rhywun nad yw ar ein Cofrestr). Nid yw’r panel hwn yn penderfynu a gafodd cwyn ei phrofi, nid ydynt ond yn penderfynu a yw’n codi unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer.
Os ydynt yn meddwl ei fod, byddant yn trosglwyddo’r gwyn i banel arall. Os penderfynant y dylai cwyn fynd ymlaen, dywedant fod ‘achos i’w ateb'.
Os bydd y panel yn penderfynu nad oes angen cymryd camau pellach ar gwyn, byddant yn rhoi rhesymau dros hynny. Byddwn yn ysgrifennu atoch (ac at y cofrestrai) i ddweud wrthych am hyn. Ni allwn ystyried yr un gwyn ddwywaith.
Os bydd y panel yn penderfynu bod achos i’w ateb, byddant yn trosglwyddo’r achos i un o’n pwyllgorau addasrwydd i ymarfer ac yn cyfarwyddo cyfreithio i ddelio â’r achos ar ein rhan.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd? Rydym yn deall y gall gwneud cwyn fod yn ingol, ond byddwn yn ceisio ystyried eich cwyn cyn gynted ag y bo modd. Os bydd y panel yn penderfynu sut y dylid symud eich cwyn ymlaen (a bod ‘achos i’w ateb’), byddwn yn rhoi syniad i chi faint o amser y bydd ein hymchwiliadau'n eu cymryd.
Beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad? Fel arfer cynhelir gwrandawiadau yn gyhoeddus. Golyga hyn y gall aelodau o’r cyhoedd (gan gynnwys y pres) eu mynychu. Bydd cofiannydd llys yno hefyd i gofnodi'r hyn a ddigwyddodd ac i gynhyrchu trawsgrifiad. Gellir cynnal y gwrandawiad cyfan neu ran ohono yn breifat (er enghraifft, os yw’r panel yn meddwl bod angen iddynt ddiogelu cyfrinachedd y claf neu iddynt amddiffyn manylion iechyd y cofrestrai).
Fel arfer bydd tri pherson ar y panel, gan gynnwys cofrestrai a pherson lleyg. Bydd asesydd cyfreithiol yno hefyd. Nid yw’r asesydd cyfreithiol yn cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau, ond bydd yn rhoi cyngor a gwybodaeth i’r panel ac i bobl eraill sy’n cymryd rhan ar y gyfraith ac ar drefn. Rydym yn ceisio gwneud i'r gwrandawiadau fod mor anffurfiol ag sy’n bosibl.
Fel arfer bydd ein cyfreithiwr yn agor y gwrandawiad drwy gyflwyno’r achos ac yn galw am dystion. Gall y cofrestrai neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd croesholi’r tyst. Gall y panel ofyn rhai cwestiynau wedyn. Ar ôl inni wneud ein hachos, gall y cofrestrai alw tystion neu wneud datganiadau i'r panel.
Fel arfer bydd y panel yn gadael yr ystafell i benderfynu a brofwyd y cyhuddiad neu beidio. Os ydynt yn penderfynu i’r achos gael ei brofi, byddant yn dweud bod ‘rheswm da’ drosto.
Pa bwerau sydd gan y panel? Ein swyddogaeth yw amddiffyn y cyhoedd, yn hytrach na chosbi’r cofrestreion. Os bydd y panel yn penderfynu bod rheswm da dros y cyhuddiadau, byddant yn gwrando ar sylwadau gan y cofrestrai neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd am ba gamau y dylent eu cymryd. Gall y panel ddefnyddio'r opsiynau canlynol.
- Gallant benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
- Gallant wneud gorchymyn rhybudd. Mae hyn yn golygu y bydd y gair ‘rhybudd’ wrth ochr enw’r cofrestrai yng Nghofrestr yr HPC. (Gall gorchmynion rhybudd bara am gyfnod rhwng un i bum mlynedd.)
- Gallant roi cyfyngiad neu ryw amodau ar gofrestriad cofrestrai. Gelwir hyn yn ‘gorchymyn amodau ymarfer’. (Gall hyn gynnwys mynnu bod y cofrestrai’n gweithio o dan oruchwyliaeth, neu ei (b)fod yn gwneud rhagor o hyfforddiant).
- Gallant atal y cofrestriad. (Ni all hyn bara am fwy nag un flwyddyn.)
- Gallant benderfynu dileu enw’r cofrestrai o’r Gofrestr. Gelwir hwn yn ‘orchymyn diarddel’.
Cymorth i dystion a rhoi tystiolaeth Pan fyddwch yn gwneud cwyn am weithiwr proffesiynol iechyd ac mae'r panel ymchwilio'n penderfynu cyfeirio'r achos i gael gwrandawiad, efallai y bydd angen i ni siarad â chi a chymryd datganiad tyst. Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth mewn gwrandawiad. Mae gennym raglen rhoi cymorth i dystion a gynlluniwyd i wneud y broses mor hawdd a chyfforddus ag y bo modd. Mae croeso i chi gysylltu â’r Adran Addasrwydd i Ymarfer os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn (gweler diwedd y llyfryn hwn am ein manylion cysylltu).
Beth na allwn ei wneud? Nid ydym yn gorff proffesiynol nag yn undeb llafar. Mae ein rôl yn wahanol. Ni allwn ddarparu cyngor neu gynrychiolaeth gyfreithiol. Dim ond pan fydd yr achos yn ymwneud ag addasrwydd cofrestrai i ymarfer y gallwn ni ymwneud ag ef. Ni allwn:
- edrych ar gwynion am staff proffesiynol nad ydynt yn y proffesiynau a restrwyd ar dudalen 1;
- edrych ar gwynion am ysbytai (nid ydym ond yn delio â chwynion am gofrestreion unigol);
- eich helpu i wneud hawliad am iawndal.
Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol Rydym yn deall y gall wneud cwyn fod yn ingol. Dylech ddeall pan fyddwn yn ymchwilio i gwyn y bydd rhaid inni ddweud wrth y cofrestrai pwy wnaeth y gwyn.
Ein prif bwrpas yw amddiffyn y cyhoedd. Os bydd cwyn ddienw (ble na fydd y person yn gwneud y gwyn yn rhoi ei (h)enw inni) yn codi amheuon difrifol a chredadwy (realistig) am addasrwydd cofrestrai i ymarfer, byddwn yn dal i ystyried a ddylid cymryd camau pellach neu beidio. Ond gall fod yn anodd iawn gwneud hyn os nad ydym yn gallu cysylltu â’r person a wnaeth y gwyn i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, mae croeso i chi gysylltu â’r Adran Addasrwydd i Ymarfer (gweler diwedd y llyfryn hwn am ein manylion cysylltu).
Adran Addasrwydd i Ymarfer Cyngor Proffesiynau Iechyd Park House, 184 Kennington Park Road, Llundain, SE11 4BU Ffôn: 020 7840 9814 E-bost: ftp@hpc-uk.org
Cyrff rheoleiddio eraill Rhestrir y cyrff sy’n cael ystyried cwynion am bobl broffesiynol iechyd eraill isod.
Ceiropractyddion Cyngor Cyffredinol Ceiropractyddion Ffôn: 020 7713 5155 Gwefan: www.gcc-uk.org
Meddygon Cyngor Meddygol Cyffredinol Ffôn: 0845 357 8001 Gwefan: www.gmc-uk.org
Deintyddion Cyngor Deintyddol Cyffredinol Ffôn: 020 7887 3800 Gwefan: www.gdc-uk.org
Nyrsys Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Ffôn: 020 7637 7181 Gwefan: www.nmc-uk.org
Optegwyr Cyngor Optegol Cyffredinol Ffôn: 020 7580 3898 Gwefan: www.optical.org
Meddygon Esgyrn Cyngor Cyffredinol Meddygon Esgyrn Ffôn: 020 7357 6655 Gwefan: www.osteopathy.org.uk
Fferyllwyr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Ffôn: 020 7735 9141 Gwefan: www.rpsgb.org
Cysylltiadau eraill Efallai y bydd y cyrff canlynol o ddefnydd i gael cyngor a chefnogaeth am eich cwyn.
Cyngor ar Bopeth Mae Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddelio â’u problemau cyfreithiol, ariannol ac â phroblemau eraill drwy ddarparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim. Ffôn: 020 7833 2181 (i ddarganfod ble mae eich swyddfa leol) Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Gallwch wneud cwyn am y GIG yma os nad ydych yn fodlon ar y gofal rydych wedi’i dderbyn, neu os na ddelwyd â hi'n llwyddiannus yn lleol. Ffôn: 020 7448 9200 Gwefan: http://www.hiw.org.uk/
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru Gall y corff hwn roi help cyfrinachol am ddim i chi os bydd gennych broblem gydag un o wasanaethu'r GIG neu gwyn yn erbyn un ohonynt. Ffôn: 0845 644 7814 Gwefan: www.patienthelp.wales.nhs.uk
WITNESS Mae WITNESS yn elusen sydd wedi ymrwymo i helpu pobl sydd wedi cael eu cam-drin gan weithwyr iechyd gofal iechyd ac mae'n gweithio i atal camdriniaeth. Ffôn: 08454 500 300 Gwefan: www.popan.org.uk
Cynllun laith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn sefydlu’r egwyddor y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer paratoi a chymeradwyo cynlluniau iaith Gymraeg. Mae’r cynllun atodedig yn esbonio’r camau a gymerir er mwyn ateb ein dyletswyddau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg.
Mae'r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC) wedi paratoi cynllun iaith Gymraeg sy’n egluro sut y bwriadwn ddarparu gwasanaethau i chi yn Gymraeg. Rydym yn gwahodd siaradwyr Cymraeg ac aelodau eraill o’r cyhoedd y gall y cynllun effeithio arnynt i gynnig sylwadau ar y cynllun.
Gallwch hefyd lwytho copiau pellach o'r ddogfen hon i lawr o'n gwefan neu gallwch gysylltu â ni pe hoffech inni anfon copi atoch.
Anfonwch eich ymateb at: Ymgynghoriad ar gynllun iaith Gymraeg Adran Polisi a Safonau Y Cyngor Proffesiynau Iechyd Park House 184 Kennington Park Road Llundain SE11 4BU
Gallwch hefyd anfon atebion drwy e-bost at consultation@hpc-uk.org neu anfon ffacs at 44 (0)20 7820 9684.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad hwn yw 1 Medi 2010. |