home > Cymru

Cymru

Cyflwyniad i Gyngor y Proffesiynau Iechyd

“Rydym yn gorff rheoleiddio newydd a’n swydd yw gwarchod iechyd a lles y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u cofrestru â ni.”

Cyngor y Proffesiynau Iechyd
Sefydlwyd Cyngor y Proffesiynau Iechyd er mwyn:
  • gwarchod y cyhoedd;
  • cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys;
  • gosod safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant;
  • ymchwilio i gwynion a chymryd camau; a
  • gweithio gyda’r cyhoedd, cyrff proffesiynol a grwpiau eraill
Efallai bod angen i chi weld ffisiotherapydd, efallai fod eich plentyn angen gwasanaethau therapydd lleferydd a iaith, neu efallai fod gennych apwyntiad gyda dietegydd. Beth bynnag fo’r sefyllfa, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio gwasanaethau gweithiwr iechyd proffesiynol, mae angen i chi fod yn hapus bod y person sy’n eich trin yn gymwys. Mae angen i chi wybod fod ganddynt yr hyfforddiant, y medrau proffesiynol, yr ymddygiad a’r iechyd sydd eu hangen i wneud eu swydd yn ddiogel ac effeithiol. Mae angen i chi wybod hefyd y gallwch weithredu os bydd pethau’n mynd o’i le.

Dyna pam y crëwyd ni.

Ynglŷn â ni
Rydym yn gorff rheoleiddio newydd, a’n swydd yw gwarchod iechyd a lles pobl sy’n defnyddio gwasanaethau y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u cofrestru â ni. Ar hyn o bryd, rydym yn cofrestru aelodau 13 proffesiwn. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn cofrestru aelodau o broffesiynau eraill yn y dyfodol. Dim ond pobl sy’n cyrraedd ein safonau ar gyfer eu medrau proffesiynol, eu hymddygiad a’u iechyd yr ydym yn eu cofrestru.

Pwy ydym ni’n eu rheoleiddio?
Dyma restr o’r gweithwyr iechyd proffesiynol yr ydym yn eu rheoleiddio ar hyn o bryd.

Therapyddion y Celfyddydau - Mae therapydd arlunio, cerddoriaeth neu ddrama yn annog pobl i fynegi eu teimladau a’u hemosiynau drwy gelfyddyd, fel peintio a gwneud lluniau, cerddoriaeth neu ddrama.

Gwyddonwyr Biofeddygol
- Mae gwyddonydd biofeddygol yn dadansoddi samplau gan gleifion er mwyn darparu data i helpu doctoriaid roi diagnosis ac i drin afiechyd.

Ciropodyddion a Thrinwyr Traed - Mae ciropodydd neu driniwr traed yn cynnig diagnosis ac yn trin anhwyldebau, afiechydon ac anffurfiadau y traed.

Gwyddonydd clinigol
- Mae gwyddonydd clinigol yn goruchwylio profion arbenigol ar gyfer rhoi diagnosis a rheoli afiechyd. Maent yn cynghori doctoriaid ar ddefnyddio profion a dehongli data ac maent hefyd yn cynnal gwaith ymchwil er mwyn deall afiechydon a dyfeisio therapïau newydd.

Dietegwyr - Mae dietegydd yn defnyddio gwyddoniaeth maethiad i lunio cynlluniau bwyta ar gyfer cleifion er mwyn trin cyflyrau meddygol. Maent yna’n helpu pobl i ddilyn y cynlluniau hyn. Maent hefyd yn hyrwyddo dewisiadau bwyd iach ymysg unigolion, grwpiau a chymunedau.

Therapyddion galwedigaethol - Mae therapydd galwedigaethol yn defnyddio gweithgareddau penodol i gyfyngu effeithiau anabledd ac i hyrwyddo annibyniaeth ym mhob agwedd ar fywyd dyddiol.

Orthoptwyr - Mae orthoptydd yn arbenigo mewn cynnig diagnosis a thriniaeth ar gyfer problemau gweledol sy’n cynnwys symudiad ac aliniad y llygaid.

Prosthetyddion ac Orthotyddion
- Mae prosthetyddion ac orthotyddion yn gyfrifol am bob agwedd ar gyflenwi prosthesis ac orthosis ar gyfer cleifion. Dyfais yw prosthesis sy’n cymryd lle rhan o’r corff sydd ar goll. Dyfais yw orthosis sy’n cael ei ffitio i ran sy’n bodoli o’r corff er mwyn gwella ei weithrediad neu leihau poen.

Parafeddygon - Mae parafeddygon yn darparu gofal a thriniaeth arbenigol ar gyfer cleifion sydd naill ai’n wael iawn, neu wedi’u hanafu. Gallant roi amrywiaeth o gyffuriau a defnyddio technegau llawfeddygol penodol.

Ffisiotherapydd
- Mae ffisiotherapyddion yn delio â symudiad a gweithrediad dynol ac yn helpu pobl i gyflawni eu potensial corfforol llawn. Maent yn defnyddio ymagweddau corfforol i hyrwyddo, cynnal ac adfer lles corfforol.

Radiograffwyr - Mae radiograffwyr diagnostig yn cynhyrchu ac yn dehongli delweddau ansawdd uchel o’r corff er mwyn rhoi diagnosis o anafiadau ac afiechydon. Er enghraifft, pelydr-x, sganiau uwchsain neu CT a gynhelir mewn ysbytai. Mae radiograffwyr therapiwtig yn cynllunio a chyflwyno triniaeth drwy ddefnyddio ymbelydredd.

Therapyddion Lleferydd ac Iaith - Mae therapydd lleferydd ac iaith yn asesu, yn trin ac yn helpu atal anawsterau lleferydd, iaith a llyncu. Mae gan bob un o’r proffesiynau uchod o leiaf un teitl proffesiynol sy’n cael ei warchod gan gyfraith. Mae’n drosedd i honni eich bod wedi’ch cofrestru â ni os nad ydych wedi gwneud hynny, neu i ddefnyddio teitl a warchodir nad oes gennych yr hawl i’w ddefnyddio. Byddwn yn erlyn pobl sy’n cyflawni’r troseddau hyn.

Ymarferwyr yr Adran Weithredu

Beth mae rheoleiddio’n ei olygu?
Gelwir gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ar ein cofrestr yn ‘gofrestredigion’. Dim ond pobl sy’n cyrraedd ein safonau o ran eu hyfforddiant, eu medrau proffesiynol, eu hymddygiad a’u hiechyd yr ydym yn eu cofrestru, a byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un cofrestredig sydd ddim yn cyrraedd y safonau hyn. Golyga rheoleiddio bod cleifion a’r cyhoedd, yn ogystal â chyflogwyr a darpar gyflogwyr, yn gwybod bod gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u cofrestru yn ddiogel i weithio. Mae’n gwneud yn siwr bod y cyhoedd yn cael eu gwarchod a hefyd ein bod yn cynnal safonau.

Sut alla’ i wneud yn siwr os yw gweithiwr proffesiynol wedi’i gofrestru?
Mae gan bawb sydd wedi cofrestru eu rhif cofrestru eu hunain, ac rydym yn rhoi tystysgrif iddynt bob dwy flynedd. Gallwch ofyn i gael gweld tystysgrif rhywun, neu gallwch fynd i edrych ar y gofrestr eich hun. Gallwch weld fersiwn ar lein y gofrestr ar www.hpc-uk.org Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad ar gefn y daflen hon ac fe edrychwn ni ar y gofrestr ar eich rhan. Fe allwch chi hefyd ddod i’n swyddfeydd er mwyn edrych ar y gofrestr.

Beth os nad ydw i’n fodlon gyda rhywun sydd wedi cofrestru?
Rydym yn ceisio sicrhau bod yr holl weithiwr proffesiynol ar ein cofrestr yn cynnig gofal o safon uchel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallech fod yn anfodlon â’r driniaeth y byddwch yn ei derbyn, neu’n poeni ynglŷn ag ymddygiad neu iechyd y sawl sydd wedi cofrestru. Yn yr achosion hyn, gallwch bob amser fynegi eich pryderon â ni. Mae ein taflen ‘Gwneud cwyn am weithiwr iechyd proffesiynol’ yn cynnwys rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud nesaf, neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â ni, ewch i’n gwefan yn www.hpc-uk.org

Gallwch weld manylion am yr holl daflenni a llyfrynnau yr ydym yn eu cynhyrchu ar y wefan, ynghyd â rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Cyngor a’n pwyllgorau, yn ogystal â newyddion a diweddariadau.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar y cyfeiriad isod.

Health Professions Council
Park House
184 Kennington Park Road
London
SE11 4BU

Print page  |  Email this page




Park House, 184 Kennington Park Road, London, SE11 4BU, +44 (0) 20 7582 0866, Data protection & F.O.I.

Design & Technology by Reading Room